Fe fyddwn ni yna yn croesi i ynys y De, ac yn treulio amser yn Picton, Nelson, Franz Josef a Fox Glacier cyn mynd mlaen i Wanaka, Queenstown, Te Anau a draw am Dunedin. Wedyn, gweithio'n ffordd i fyny i Christchurch, heibio Mt Cook a Lake Tekapo, mlaen am Kaikoura a Blenheim cyn croesi nôl.
Ar ynys y Gogledd eto, fe fyddwn ni'n treulio ychydig o amser yn Wellington eto, y tro hwn yn ffilmio ar gyfer 'Ffermio', yna fyny i Wanganui, heibio Siwan a Greg, fyny i ogofeydd Waitomo, pasio Hamilton a phasio Auckland ac ymlaen am y Bay of Plenty, Paihia a Cape Reinga cyn dychwelyd i Auckland i hedfan mlaen i Hong Kong. A dyna i chi fraslun o'n taith cyn dechrau ond dwi'n siwr y newidith pethau dipyn dros y mis a hanner nesaf!!!