Sunday 6 January 2008

Wellington
















05/01/08- 06/01/08: Wellington

Fe gyrhaeddon ni Wellington bnawn ddoe ac fe dreulion ni'r noson yn sortio'r wefan, rhoi lluniau ymlaen ar y blog yma, golchi dillad ayyb... dach chi ddim eisiau gwybod am hynny!!... Eniwe, bore ma, fe godon ni yn gynnar i gael bws i fynd a ni ar daith o amgylch y ddinas. Fe ddechreuon ni ynghanol y dre gydag adeiladau'r Senedd, yna hen gadeirlan Sant Sior, adeilad pren hynaf hemisffer y de, yna i'r gerddi botaneg. Fe welson ni pen taith y cable car ( http://www.cablecarmuseum.co.nz/), ty Kathleen Mansfield a rhai o draethau ymylol y ddinas. Fe orffennodd y daith gydag ymweliad i dy cyngor cynta'r wlad!!!! - diddorol dros ben - NOT! Yna i ben mynydd Victoria lle roedd y golygfeydd mwyaf bendigedig o harbwr Wellington. Fe gafodd Lois y cyfle i fynd i'r top lle roedd golygfa 360 gradd o amgylch y ddinas.. fues i ddim cweit mor lwcus, ond mae Lois yn dweud ei fod yn arbennig iawn! .. Yn anffodus, doedd y tywydd ddim cystal heddiw chwaith. Roedd hi'n gymylog iawn a dwi hefyd rwan yn deall pam eu bod yn galw'r ddinas yn "windy city"! Mae'n ofnadwy o wyntog yma!!

Fe gawsom ein gollwng ger Amgueddfa Te Papa - prif amgueddfa Seland Newydd ( http://www.tepapa.govt.nz/). Fe fues i'n lwcus i gael cadair olwyn i fynd o amgylch y lle... ac yn ddigon lwcus i gael rhywun i ddreifio fyd - Lois!!! Roedd y lle yn gymysg o nifer o amgueddfeydd llai - o hanes y Maori i hanes y bobl o ynysoedd y Pacific ddaeth draw yma. Fe welson ni pam fod llosgfynyddoedd a daeargrynfeydd mor gyffredin yma, eu heffaith a'u dylanwad ac amgueddfa am fywyd gwyllt y wlad - anifeiliaid a phlanhigion. Roedd o'n le gwych gyda'r ochr ryngweithiol o bethau yn gryf iawn. Roedd o'n gyfuniad o techniquest a'r Amgueddfa Genedlaethol. Fe fyddai gan Celtica le i ddysgu o'r fan yma!!!
Heno, roeddem wedi gobeithio mynd am fwyd i 'Kai' - bwyty traddodiadol Maori, ac yna i'r dafarn Gymreig, sydd digwydd bod ar draws y ffordd. Ond yn anffodus, roedd 'Kai' a'r 'Welsh Dragon' ar gau!! Felly pryd sal mewn bwyty eidalaidd gawson ni heno a dan ni nol yma'n gynnar yn sgwennu ar hwn!!!

Yfory, mlaen am ynys y De! Gadael yn gynnar - fferi yn mynd am 8.25. Bring it on!!