Thursday 31 January 2008

Taumarunui











30/01/08: Wellington i Taumarunui

Gadael Wellington yn gynnar y bore ma a theithio i fyny Highway 1 i Wanganui. Stopio yno i brynu brechdanau i fwyta ar ein ffordd fel ein bod yn gallu parhau a'n taith. Fe benderfynom fynd oddi ar y brif ffordd a mynd ar hyd y Whanganui River Road - ffordd 91km droellog iawn sy'n glynu wrth yr afon yr holl ffordd i fyny. Fe basiom heibio nifer o bentrefi Maori gyda marae's (tai cyfarfod) amryliw ar y ffordd. Roedd y daith yn llawn golygfeydd prydferth ond yn anodd iawn o ran y gyrru! Roedd ei hanner yn ffordd gravel! Tip i chi... os dach chi'n dod i Seland Newydd rhyw ddydd, huriwch 4x4 os dach chi'n bwriadu teithio 'off the beaten track' fel petai!! Mae insiwrans llawn y car rental yn sicr wedi bod yn werthchweil! Fe gymrodd rhyw 3 awr i ni wneud y daith a chyrraedd y brif ffordd unwaith eto.

Yn ol ar y llwybr cywir, doedd hi'n fawr o dro arnom yn cyrraedd pentref bychan o'r enw Owhango ger Taumarunui. Roeddem yn aros gyda Greg a Siwan Shaw a'i mab bach 6 mis oed, Jock. Mae Siwan yn dod o'r un ardal enedigol a mi a Greg yn dod o'r Bay of Plenty yma yn Seland Newydd. Bum allan yn eu ffilmio y llynedd ar gyfer 'Ffermio', ac roedd hi'n braf eu gweld unwaith eto. Y llynedd, roedden nhw yn rhentu fferm 1000 o aceri ac newydd brynu ty. Erbyn rwan, ers rhyw fis yn unig, mae nhw wedi prynu fferm arall ac wedi symud i'r ty fferm. Roedd Jock yn ei wely y noson honno pan gyrhaeddom ond fe geson ni'r fraint o'i weld y bore wedyn! Am gog bech clen, fel y bysen ni'n deud yn sir Drefaldwyn! Bachgen bach llawen a hapus iawn ei fyd, 'swn i'n ddeud! Roedd hi'n gret cael dal i fyny dros bryd o fwyd a rhoi y byd yn ei le!