Wednesday 2 January 2008

Wps!!




Gesiwch be mae Mererid wedi'i wneud! Dwi di cael damwain fach! Dwi di sprainio fy migwrn ... eto!!! ( tro diwethaf: 2000!) Fe ddigwyddodd nos Sadwrn diwethaf, ar ddiwrnod cyntaf hurio'r car fyny yn y Coromandel. Roedden ni di bod i Hot water beach ac wedi penderfynu cerdded y llwybr byr i Cathedral Cove. 200 llath i lawr y llwybr, tra'n edrych ar y golygfeydd yn lle'r llwybr, fe droes i fy nhroed dde yn ddrwg. Roedd yn brifo'n arw a bu'n rhaid i ddau foi fy nghario i fyny'r llwybr i'r top. Ar ol siarad a'r hostel yn Whitianga a nhwythau yn siarad a doctor, fe benderfynon ni i beidio a mynd i'r ysbyty yn syth ond yn hytrach i chwilio am rew a bandages yn syth. Fe fu fy nhroed i fyny am rai dyddiau er mwyn i'r chwyddo fynd i lawr, ac roedd dipyn yn well erbyn gadael Whitianga. ( Roedd dynes neis yr hostel wedi rhoi benthyg crutches i fi tra yno hefyd, ddaru helpu lot!)

Dwi heb ddweud dim ar y blog hyd yma achos nad o'n i am i Mam a Dad boeni.. ond erbyn hyn, mae'n rhaid cyfaddef... achos mi ddaw yn amlwg yn y lluniau!!!

Ddoe, ar y ffordd i Rotorua, ( fe gewch chi'r hanes eto) fe es i heibio'r ysbyty i gael o wedi checkio a chael x-ray rhag ofn! Fe ddaeth i'r golwg bod o wedi'i sprainio ond bod hefyd ddarn bach o asgwrn rhwng gwaelod asgwrn y goes a top y bigwrn wedi'i grafu neu wedi dod yn rhydd neu rhywbeth felly a'i fod o ddim cweit yn iawn! Fe es i yn ol bore ma i gael crutches ganddyn nhw ac hefyd 'moon-shoe' - sef teip o plaster cast ac fe fyddai'n gorfod ei wisgo am tua 4 wythnos!!!

Felly, fel'na mae hi!!! DWi di cael fy ngalw'n hop-a-long, yn Hop-sing o China, ac yn one-legged welsh woman ers y ddamwain a dwi'n siwr y meddyliwch chi am sawl un arall ar ol gweld y lluniau. Cofion at bawb oddi wrth y ddwy ohonom xx