Monday 31 December 2007

Blwyddyn Newydd!







Blwyddyn Newydd dda i chi un ac oll!

Mae rwan yn hanner awr di un y pnawn ar y cyntaf o Ionawr, 2008 - toc wedi hanner nos eich amser chi! Fe fuon ni'n dathlu'r flwyddyn newydd 13 awr o'ch blaenau chi neithiwr! Ac fe ddechreuodd y diwrnod yn gynnar gyda thrip ar gwch gyda gwaelod gwydr (www.glassbottomboatwhitianga.co.nz) o gwmpas Bae Mercury, bae gafodd ei enwi ar ol Capten Cook orfod defnyddio lleoliad y blaned yn yr awyr i weithio allan lle roedd o wedi'i gyrraedd!

Fe fuon ni'n gweld Cathedral Cove, traeth brydferth gyda chraig sydd a thwll ynddi mewn siap 'archway'. Fe symudon ni mlaen wedyn i lecyn lle roedden ni'n gallu gweld pysgod o bob math o dan y cwch, ogofau, traethau a chlogwyni'r arfordir. Ond uchafbwynt y daith i'r ddwy ohonom oedd y cwmni gawsom ni ar ein ffordd yn ol i harbwr Whitianga. .. Fe ddaeth na haid o ddolffiniaid i ymuno a ni! Roedd 'na ryw 15 i gyd yn nofio gyda'r cwch ond mae'n debyg bod llawer iawn mwy o dan y dwr gyda'r haid na fedrwn ni eu gweld. Roedd o'n brofiad bythgofiadwy.

Fe fuon ni wedyn yn torheulo ar daeth Buffalo yn y pnawn - y traeth sydd reit gyferbyn a'r hostel. Yna allan wedyn neithiwr i gael bwyd lyfli yn 'Squid' a botel o win - lleol, wrth gwrs!!! Fe gwrddon ni a chwpl o Sydney, cwpwl o Loegr sydd wedi allfudo yma a chriw o Seland Newydd. Doedd hi ddim yn noson wyllt, ac roedden ni'n dwy yn ein gwelyau yn ferched da erbyn 1.15 y bore!!

Gobeithio eich bod chi wedi cael noson dda o ddathlu ac na fydd ganddoch chi ormod o boen pen bore fory!! Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!!

Hwyl am y tro x