Monday 14 January 2008

Queenstown











14/01/08 - 15/01/08: Queenstown

Roedd y glaw yn dal i dywallt i lawr pan adawsom Fox Glacier fore Llun. Fe yrrom drwy'r Haast Pass lle roedd yn rhaid gyrru dros amryw o bontydd dros ddwr gwyllt yr afon Haast. Fe arhosom am ginio yn Wanaka cyn dechrau i lawr am Queenstown ar hyd ffordd sydd i fod yn llawn golygfeydd trawiadol. Yn anffodus, oherwydd y glaw, doedd dim i'w weld! Roeddem wedi gobeithio gweld y 'Bra Fence'; yn union fel mae'r enw'n ei awgrymu, mae 'na ffens ger pentref Cardrona sydd i fod yn llawn cannoedd o fras wedi'i clymu iddo. Yn anffodus eto, ( neu, yn ffodus, gan na fyddai'n rhaid i ni dynnu'n bras a'u hychwanegu at y ffens) doedd dim i'w weld. Mae'n debyg bod helynt wedi bod rhwng y ffermwr oedd berchen y ffens a'r Cyngor lleol. Roedd y cyngor lleol yn teimlo bod y ffens yn 'distraction' i yrrwyr ac roedd yn rhaid ei thynnu i lawr. Yn y gorffennol, pan wnaethpwyd hyn, roedd bras newydd wedi ymddangos dros nos drwy ryw ryfedd wyrth! Beth bynnag, mae 'na frwydr di bod ac mae'n amlwg bod y ffermwr bach wedi colli! Ond be ddigwyddodd i'r holl fras 'na tybed?!!!

Beth bynnag, ymlaen a ni yn y glaw i Queenstown! Tref ger llyn anhygoel ( dwi'm yn cofio'i enw rwan!) wedi'i amgylchynnu gan fynyddoedd uchel, trawiadol. Roeddem yn aros mewn hostel o'r enw'r Butterfli Lodge sydd reit uwchben y llyn. Wrth eistedd ar y verandah, mae'n bosib gweld y llyn yn glir! Mae'n hyfryd!

Ddoe, doedd dim modd gweld dim byd ond erbyn y bore, roedd yr haul wedi codi ac yn tywynnu dros yr ardal i gyd. Fe aeth Lois i rafftio dwr gwyn ( fe geith hi ddweud yr hanes nes mlaen) ac fe ges i lifft i'r dre i wneud bach o 'people watching' mewn caffi bach.

Fe gwrddom i fyny ganol dydd a neidio ar y gondola i fynd a ni i fyny'r mynydd uwchlaw Queenstown ac edrych i lawr dros y dre. Roedd hi'n anhygoel yno! Roedd rhywun yn gwneud naid bungy oddi tanom - rhywun tipyn dewrach na ni!!

Ar ol tynnu'n hunain oddi wrth yr olygfa a chael cinio yn y caffi yno, dyna neidio yn y car a gyrru i Arrowtown gerllaw. Mae'n dref oedd yn bwysig iawn yn y 1800au fel tref lle roedden nhw'n cloddio am aur. Dydy'r adeiladau heb newid fawr ers hynny ond erbyn hyn, mae'n nhw yno i ddenu a phlesio'r twristiaid.

Dan ni nol yn yr hostel rwan, yn golchi'n dillad a sgwennu ar hwn. ( Wedi gobeithio rhoi lluniau ymlaen, ond mae'r rhyngrwyd yn araf iawn yma! Fydd yn rhaid i chi aros!) Dan ni'n mynd am fwyd heno efo merch sy'n aros yma ac sy'n dathlu'i phen-blwydd heddiw yn 34 a chriw o'i ffrindiau hi. Dan ni'n mynd i le o'r enw Winnie's lle mae 'na do sy'n symud i'r ochr er mwyn gallu edrych fyny ar y ser!! Rhamantus iawn yn de?!!

Helo, Lois sydd 'ma eto yn son am y rafftio dwr. Gan bod Queenstown yn le adnabyddus am eu campiau awyr agored, roedd rhaid gwneud rhywbeth ... ac felly rafftio dwr gwyn amdani (yn lle gwneud bungi jump!). Taith o 5 munud or pwynt cwrdd yn y dre i adeilad 'Queenstown Raffting' ger Afon y Shotover. Cael ein wet suits, flippers, cotiau dwr, helmedau a siacedi achub ac yn ol ar y bws am daith o 3/4 awr ofnadwy ar heol un lon ar ochr mynydd mewn hen fws, ond roedd y gyrrwr yn brofiadol iawn, diolch byth ac roedd y brecs yn gweithio'n berffaith, achos un modfedd yn ormod ir dde a byddem wedi cwympo i ebargofiant.

Unwaith roeddem wedi cyrraedd y pwynt uchaf yn yr afon, rhannu i grwpiau o 7 a cwrdd a'm tim. Fe ges i fy rhoi gyda thim o deulu o bedwar o Ffrainc a tad a mab o Sydney, ac roedd ein tywyswr yn Ffrancwr o Ganada. Felly roedd ein cyfarwyddiadau yn gymysgedd o Ffrangeg a Saesneg...falle dylswn ni fod wedi cymeryd ychydig mwy o sylw yn y dosbarthiadau Ffrangeg yn yr ysgol!!

I fewn a ni i'r rafft a dechrau ein taith i lawr afon y Shotover; roedd yn afon gradd 3 - 5 i rafftio, felly afon cymhedrol. Roedd ein tywyswr yn hapus iawn gyda'n tim, tim cryf a oedd yn gweithio yn dda gyda'n gilydd! Da oedd clywed hyn gan ystyried beth oedd o'n blaenau. Buom am awr ar yr afon, yn rafftio trwy ardal y Goldrush yn Queenstown, ac felly nid yn unig roeddem yn cael profiad o'r afon a gwylltineb y dwr ond hefyd yn cael hanes y gorffennol. Roedd y Shotover ychydig yn fwy gwyllt na afon Tryweryn yn y Bala (o beth fi'n cofio). Cyrhaeddom y gwaelod heb i neb golli paddle na neb chwaith gwympo allan, ond yn sopian wlyb ac ychydig o gleisiau. Felly cawod twym a phaned o de a cookie cyn mynd nol ar y bws i gwrdd a Mererid.