Friday 4 January 2008

Taupo & Hastings











Iau - Taupo & Gwener - Hastings

Bore Iau, ar ol bore yn yr ysbyty yn Rotorua, yn rhoi'r moon shoe am fy nhroed, prynu'r x-rays, y crutches a'r holl caboodle, fe aethom ymlaen i Taupo sydd rhyw awr i ffwrdd. Fe aethom i weld yr Huka falls - rhaeadr anferth, pwerus, ac yna i gael cinio yn y Prawn farm gerllaw ( www.prawnpark.co.nz) ... prawns oedd yr unig beth bron ar y fwydlen, wrth gwrs! Fe aethom i fwynhau'r golygfeydd o'r llyn cyn mynd nol i sortio'n hunain allan yn yr hostel. Roedd angen amser i fynd ar y we i sgwennu rhywfaint o'r blog diwethaf ac ail-drefnu rhannau o'r daith.

Y bore wedyn, bore Gwener, y 4ydd, fe deithiom rhyw 3 awr draw i Hawke's Bay ar yr arfordir dwyreiniol. Roedd hi'n gymylog iawn yr holl ffordd ac erbyn i ni gyrraedd roedd hi'n bwrw. Doedd fawr o siawns gen i i fedru crwydro'r dre felly i'r amgueddfa amdani i gysgodi a dysgu mwy am y daeargryn darodd y dre nol ar ddechrau'r ganrif diwethaf, sut roedd pobl wedi ymdopi a sut y cafodd y dre ei hail-adeiladu mewn steil art-deco. Yn sgil y glaw a fy nhroed, buom wedyn yn tynnu lluniau o'r adeiladau o'r car cyn penderfynu symud ymlaen a chwilio am ein lle aros yn hastings - parc gwersylla o ryw fath y tro hwn - ond roedd gennym cabin gyda lle i barcio o'i flaen oedd yn gyfleus iawn.

Gan ein bod yn ardal y gwinllanoedd, roedd Lois yn mynnu bod yn rhaid i ni ymweld a rhai o'r cwmniau sy'n cynhyrchu rhai o winoedd gorau'r byd. Fe aethom draw am ardal Havelock North, cael cinio sydyn yno a mynd i weld Stad Te Mata ( www.temata.co.nz) a Stad Black Barn ( www.blackbarn.com) .. fe geson ni flasu rhywfaint o'r gwahanol winoedd fyd.. ond dim gormod yn anffodus i Lois gan ei bod yn gorfod gyrru!!.. Ac roedd yn rhaid iddi yrru'n ddiogel fyd achos y lle nesaf aethon ni oedd i dop mynydd Te Mata oedd yn uchel ofnadwy, yn droellog ofnadwy gyda dim barriers ar hyd ochr y ffordd! Mi fyddai'r olygfa ar y top wedi bod yn werthchweil petaen ni ond wedi gallu gweld!!! Roedd hi dal yn gymylog yn anffodus!! Nol i'r parc, darllen a chael swper a noson dawel!

M x

Rotorua






















Dydd Mercher yr 2ail o Ionawr a dechrau yn gynnar i deithio lawr o Whitianga i Rotorua. Taith a gymerodd tua 2 awr a hanner. Ar y ffordd fe stopio ni'n yn Hell's Gate, parc 'geothermal' a oedd gyda nifer o pyllau stem a sulphur. Fe ges i gyfle i gerdded o amgylch tra oedd Mererid yn gorffwyso yn y caffi, ond roedd y smell yn ormod i fi ac ar ol hanner awr fe es i am nol. Gweler mwy http://www.hellsgate.co.nz/

Ar ol cinio yn y caffi fe ethom i gael bath ..... yn y mwd!! Mud Bath go iawn!! Roeddem ni fel moch yn joio rolio!! Wedyn ar ol 20 munud fe symudon ni ymlaen i gael cawod oer oer! a wedyn mewn ir pwll sulphur twym. Mae'r ddau (y mwd a'r sulphur) i fod yn ddau iawn ir croen, ac felly roedd ein croenau yn feddal fel pen ol babi erbyn i ni adel!

Wedyn symud ymlaen ir hostel a cael cyfarwyddiadau ir ysbyty ar gyfer Mererid i gael check-up. Yno am 2 awr a wedyn mynd ir nos gyngerdd a hangi (bwyd traddodiadol y Maori) yn mhentref Maori y Mitai. Fe ddechreuodd y noson gyda'r Maori's yn cyrraedd mewn canw, ond yn anffodus nid oedd Mererid yn gallu gerdded yna o achos y droed, ac felly fe gaeth hi Mobility scooter!! Doniol iawn!! Noson gwych a hwyliog wedyn gyda dawnsfeydd a disgrifiadau o'u harfau a'i ffordd o fyw. Wedyn swper gyda bwyd sydd wedi cael ei goginio ar gerrig twym o dan y ddaear - cig oen, cyw iar, sweet potato a tato traddodiadol - y cyfan gyda salad, bara a digon o pwdins. Ar ddiwedd y noson fe wnaethant ein tywys i weld y glow worms ynghanol y goedwig, fe gath Mer weld y rhain, ond roedd hi ar y scooter! www.mitai.co.nz