Monday 21 January 2008

Dunedin i Mt Cook


21/01/08: Llun

Fe adawsom Dunedin y bore ar dith go hir draw am Mount Cook. Fe ddilynsom yr arfordir am ychydig a stopio i weld y Moeraki boulders ar y traeth mwyaf anhygoel. Buom yn trio'n galed i dynnu lluniau da o'r cerrig heb gael pobl ynddyn nhw! Tipyn o job o ystyried y twristiaid oedd yno!! Mae'r peli crwn hyn wedi cael eu ffurfio miloedd o flynyddoedd yn ol o amgylch crisialau calch o fewn y cerrig mwd o'u hamgylch.

Fe symudom ymlaen wedyn i Oamaru, tref sy'n adnabyddus am y pengwiniaid glas a'r pengwiniaid llygad-felen sy'n nythu yno. Yn anffodus, doedd dim lot i'w weld gan eu bod yn cysgu! Mae mwy i'w weld gyda'r nos pan fo'r rhieni yn dod allan i nol bwyd i'r rhai bach.

Mlaen yn y car a stopio yng nghwm Waitaki i weld yr 'Elephant rocks' - cerrig anferth eto, ond y tro hwn yn edrych fel creaduriaid yn cysgu mewn cae! Fe ddechreuon nhw fel tywod wedi'u claddu 25 miliwn o flynyddoedd yn ol a dros amser, maen nhw wedi caledi a throi'n galchfaen. Roedd y tirlun hwn wedi cael ei ddefnyddio fel lleoliad i Aslan's camp yn y ffilm 'The Chronicles of Narnia: The Lion, the witch and the wardrobe'. Stopio hefyd i weld y Takiroa maori rock art - hen luniau beintiodd y maori's yn y creigiau. Yn anffodus, mae'r galchfaen wedi erydu a dim lot i'w weld erbyn hyn.

Dreifio mlaen ond yn boeth ofnadwy yma felly stopio am baned ( i gael y caffeine i gadw'n effro) ac yna hufen ia bendigedig i gadw'n cwl, yn Omarama. Dreifio mlaen wedyn i Mt Cook a'r olygfa ohono gyda llyn Pukaiki o'i flaen yn ysbrydoledig! Doedd pen y mynydd ddim i'w weld ond y rhan fwyaf ohono. Ar ol cyrraedd y YHA yn y pentref ei hun, fe aethom i gael swper cynnar a mynd allan i fynd o dan draed gan ein bod yn rhannu ystafell 8 gwely. Roedd 5 o'r merched yno'n gweithio i gwmni dillad ac wedi bod ar 'photoshoot' yn tynnu lluniau ar gfyer eu catalog gaeaf.

FE aethom allan i gael diod yng ngwesty enwog yr Hermitage sydd wrth droed Mt Cook ac yna i'r 'Old Mountaineers' Lodge. Roedd llyfr cofiant yno i Syr Edmund Hillary sydd a'i angladd yma yn Auckland yfory. Mae'r newyddion yn llawn hanes y paratoadau ar ei gyfer a nifer o raglenni radio yn trafod atgofion pobl amdano.Roedd dau oedd yn berchen y Lodge yma yn ei adnabod yn led dda ac wedi bod yn mynydda gyda fo.

Nol i'r hostel wedyn a dechrau siarad gyda Lou ( Llywelyn! ...ac oes, mae 'na gysylltiad Cymreig yna ond doedd o ddim siwr sut) ac roedd yn ymgynghorydd iechyd a lles yn Sydney. Bu'n rhoi cyngor i mi ar sut i ofalu am y droed unwaith bydd y 'moon shoe' i ffwrdd!!




Dunedin






19-01-08 & 20-01-08: Dunedin

Gadael Te Anau y bore ma a chyrraedd Dunedin tua chanol dydd. Ar ol sortio'r motel, fe aethom i ganol y dre i gael cinio. Wedi bwriadu cael bws hop-on-hop-off i ddangos y prif lefydd i ni o gwmpas y dre ond wedi colli'r un olaf felly penderfynu i wneud un ein hunain yn lle! Fe aethom heibio'r harbwr, y gerddi Botaneg a stryd serthaf y byd! Ac mae'n uffernol o serth!!!! Roedd y ddwy ohonom yn poeni y byddai'r car yn fflipio drosodd wrth fynd i fyny'r rhiw ac yn gweddio bod ganddon ni frecs digon da ar y ffordd i lawr. Roedd 'na rai pobl yn cerdded i'r top ond roedd esciws go dda gyda ni!

Y diwrnod wedyn, yr 20fed, fe aethom o amgylch penrhyn Otago sydd gerllaw Dunedin ei hun. Mae mor agos i'r dre ond yn frith o fywyd gwyllt! Fe aethom yn gyntaf i weld y Royal Albatrosses sy'n nythu ar ben pellaf y pegwn a thra yno, fe welon ni forlo, cwpwl o bengwiniaid llygad-felen ac adar gwyllt. Fe glywsom fod Allen's beach yn le da i weld 'sealions' ond ar ol ymdrechu i gyrraedd yno, doedd dim i'w gweld. Roedd hi'n rhy wyntog a'r mor yn rhy wyllt!.. Lle da i dynnu lluniau dramatig, er hynny!!!