Saturday 26 January 2008

Blenheim











26.01.08: Renwick, Blenheim

Gadael Kaikoura a theithio i fyny'r arfordir i Blenheim. Stopio ar y ffordd yng ngwinllan Montana Brancott - yr ail gwmni gwin mwyaf yn y byd. Fe gawsom fynd ar daith awr o amgylch y safle i weld lle a sut roedd y gwin yn cael ei gynhyrchu a'i storio. Mae'r grawnwin yn cael ei gynaeafu fel arfer ym mis Chwefror - Ebrill ac yn cael ei bigo a pheiriannau gan fwyaf. Os dach chi eisiau prynu gwin Sauvignon Blanc Montana, mae gwin 2007 mae'n debyg yn un da iawn! Mae'r cwmni yn cynhyrchu pob mathau o winoedd ond y Sauvignon Blanc yw'r prif un yn yr ardal hon, Marlborough. Fe gawsom gyfle i flasu rhywfaint ohonynt a chael gwydryn dros ginio yno. Braf iawn!

Mlaen wedyn i Blenheim lle roedd popeth wedi cau ar bnawn Sadwrn! Anhygoel. Mlaen felly yn syth i'r hostel, 'Watson's Way Backpackers' yn Renwick, ardal y gwin, a chael noson dawel yn gwylio ffilm.

27.01.08

Heddiw, wedi cael cyfle i fynd ar daith strwythedig gyda chwmni arbennig o gwmpas y gwinllanoedd. Mae tua 150 o winllanoedd, bach a mawr, yn yr ardal hon yn unig, ac fe fuom ni i 6 ohonynt. Roedd y cwmni cyntaf, Bladen, yn gwmni bach gyda 20acer o dir; yr ail, Seresin, yn perthyn i 'cinematographer' enwog sy'n treulio mwyafrif o'i amser yn Hollywood yn gweithio ar ffilmiau Harry Potter ac eraill. Mae'r winllan hon, sy'n 340 o aceri, yn un organig, yr unig un yn yr ardal hon. Cwmniau arall buom yn ymweld a nhw oedd y Framingham, Mahi, Cloudy Bay a Hunter vineyard, - yr un olaf yn perthyn i Louis Vuitton.

Roedd cyfle i flasu rhyw 4 - 6 gwin gwahanol gyda phob cwmni ac roedd coesau'r ddwy ohonom braidd yn wan erbyn diwedd y pnawn! Fe ddiweddom y dydd gydag ymweliad a'r ffatri siocled 'Makana'. Roeddem yn ein helfen!! Gwin a siocled mewn un diwrnod? Be well dach chi eisiau?!!!

Kaikoura




25-01-08: Kaikoura

Gadael Christchurch y bore ma a chyrraedd Kaikoura sydd ychydig i fyny'r arfordir tua 11.30, a mynd yn syth i weld colony o forloi sy'n byw ac yn torheulo ar y creigiau ar y penrhyn ger y pentref. Bwyta'n brechdanau yno a mynd draw wedyn i'r maes awyr at gwmni 'Wings over Whales' sydd, fel mae'r enw'n awgrymu, yn hedfan dros y mor yn y gobaith o weld morfilod. Roedd 4 allan o 5 o deithiau'r dydd hyd yma wedi bod yn llwyddiannus yn gweld morfilod, ac felly roeddem yn teimlo'n reit obeithiol.

Mae'r ardal yn denu pob math o forfilod - sperm whale, humpback whale ayyb.. gan bod dau 'canyon' anferth o dan y mor yn agos i'r arfordir sy'n 2km o ddyfnder. Mae un ardal rhyngddynt sy'n fwy bas ac felly mae'r cerrynt rhyngddynt a'r gwahaniaeth tymheredd o'r dwr oer i'r dwr cynhesach yn ei wneud yn lle perffaith iddynt chwilio am fwyd. Mae'r morfil fel arfer yn byw yn ddwfn o dan y dwr ac yn dod i fyny i'r wyneb bob rhyw dri-chwarter awr hyd at 2 awr i ocsigeneiddio'r gwaed, ac yn aros i fyny am rhyw 10 munud. Mae'r ffenestr felly i'w gweld yn fyr iawn. Morfilod sy'n rhy ifanc i fridio sy'n byw yn yr ardal hon - 'teenagers' tua 13 oed!

Fe ddaeth pedair arall ( oedd wedi bod yn anlwcus a heb weld dim ddoe) i fyny gyda ni. Ar ol 25 - 30 munud, roedd Anita, y peilot, ar fin troi'n ol pan roedd yr hofrennydd oedd yn cario pobl eraill wedi sylwi ar forfil yn y dwr. Buom yn ei amgylchynnu am sbel yn ceisio tynnu lluniau ond roedd o bach yn rhy bell!!! Sperm whale oedd o, mae'n debyg, y 3ydd mwyaf o deulu'r morfilod.

Ar y ffordd yn ol, fe ges i bach o banig gan i'r camera ddweud 'read error' a pheidio a gadael i mi edrych yn ol ar yr un o'r lluniau! Ro'n i'n poeni bod popeth dynnwyd ganddom ers Dunedin wedi'i golli! Hunllef! Yn ffodus, fel sortion y cyfan ac mae'r lluniau'n saff, diolch byth! Fe aethom i gaffi rhyngrwyd wedyn i drosglwyddo'r lluniau cyn iddynt ddiflannu eto!!

Roeddem yn aros mewn hostel o'r enw'r 'Lazy Shag' ( a deryn ydi 'shag' cyn i chi dd'eud dim byd!!) Wrth nol stwff o'r oergell, fe sylwodd y boi 'ma ein bod yn siarad Cymraeg! Ian oedd ei enw, ac roedd o'n dod o'r Bala ( er yn wreiddiol o Lanffestiniog) ac yma am rhyw fis yn hitch-hikio o amgylch y ddwy ynys. Gweithio fel saer coed oedd o ym Manceinion yn ystod yr wythnos.

Fe aethom allan am swper i'r lle mwyaf 'classy'! - stondin fechan mewn lay-by ar ochr y mor, ond roedd yn hyfryd. Be well na bwyta bwyd y mor yn edrych allan ar y mor ei hun?! Fe gaethom 'crayfish' am y tro cyntaf - mae'n boblogaidd iawn yma a dyna, mewn gwirionedd, ydi ystyr enw'r pentref ei hun mewn maori. Mae 'Kai' yn golygu bwyd a 'koura' yn golygu crayfish. O ie, roedd perchennog y stondin yn fab i Gymro o Bontypwl! Byd bach!