Monday 7 January 2008

Picton






















07/01/08 - 08/01/08: Picton

Fe ddechreuon ni yn gynnar ddoe gan ddal y fferi yn Wellington am 8.25 i groesi dros y Cook Strait draw i Ynys y De. Fe lanion ni yn Picton tua 11.35. Roedd hi'n daith lyfn ond doedd dim gobaith gweld dim llawer o'r olygfa oherwydd y niwl a'r glaw.. Ond pwy welon ni ar y fferi oedd neb llai na Gethin Havard a'i deulu o Bontsenni! Gafodd y ddau ohonom ni gymaint o sioc a'n gilydd!! Roedd o yma ers rhyw wythnos ac yn croesi draw i Ynys y De i dreulio rhyw 6 wythnos yma i gyd. (Mae Gethin yn cael ei holi'n aml ar 'Ffermio' i'r rheiny ohonoch sydd ddim yn ei adnabod. )

Ar ol checkio i mewn i hostel Sequoia, fe benderfynon ni wneud y gorau o'r pnawn gan ei bod yn addo tywydd tipyn mwy garw yfory ( sef heddiw). Fe aethom ar daith go angyffredin - buom o amgylch y Marlborough Sounds yn dosbarthu'r post! (http://www.mailboat.co.nz/) Roeddem wedi dal cwch y gwasanaeth post ac roedd yn gwneud taith wahanol bob dydd yn dosbarthu post a nwyddau bwyd ayyb i drigolion yr ardal. Mae'r ardal erbyn hyn yn llawn bythynod gwyliau a dim ond rhyw 20% o'r tai sydd a phobl yn byw ynddynt drwy'r flwyddyn, a dim ond y rhain yn unig sy'n cael derbyn post yn y ffordd yma. Roedd y trigolion yn aros amdanom ar ben y jetty a'r post a'r bocsus yn cael eu trosglwyddo o law i law drwy ffenestr y gyrrwr. I rai, y cwch hwn fyddai eu hunig gyswllt a byd y tir mawr bob wythnos. Fe welsom gwpwl o'r enw'r Davies' oedd wedi bod yn byw bywyd syml iawn yno am 30 mlynedd ond dim ond wedi gadael i fynd i'r tir mawr rhyw ddeg gwaith i gyd!! Ar ochr arall y bae, roedd gwr arall yn byw.. y tro hwn mewn ty gwerth 4.8 miliwn o ddoleri SN - tua 2 filiwn o bunnau - ac a gymrodd rhyw 7 mlynedd i'w adeiladu! Mae'n rhaid i'r holl ddeunyddiau, adnoddau a pheiriannau ddod i mewn ar gychod mawr gan nad oes ffordd arall i gyrraedd yr ardaloedd anhysbell hyn.

Roedd hi'n daith braf iawn ond roedd y glaw yn amharu braidd ar y golygfeydd. Dwi'n siwr ei fod yn le prydferth iawn ar y diwrnod iawn!!

Heddiw, gan bod y glaw wedi aros a'r cymylau dipyn yn is, fe benderfynon ni ddod am dro i Nelson, rhyw awr a hanner i ffwrdd. Mae'n dre glan mor boblogaidd iawn ac, mae'n debyg, y lle gyda'r mwyaf o heulwen yn Seland Newydd. Ddim heddiw!!! Dan ni'n amlwg wedi dod a'r tywydd Cymreig draw efo ni!!

Dan ni wedi cael cinio mewn lle twrcaidd a rwan yn sgwennu hwn mewn internet cafe. Roeddem wedi gobeithio cwrdd Heledd Lewis fu'n byw ym Mro Ddyfi am ychydig, ond mae bach yn brysur gyda'r plant. Efallai yfory!

Ta ta tan toc! xx
10.15 heno ma - (9.15 y bore eich amser chi) fe fu Lois ar Radio Cymru yn trafod y daith gyda Mark Griffiths ( Marky G). Bu'n holi pam ein bod wedi penderfynu ar Seland Newydd, pa mor hir dan ni yma, faint o wyliau dan ni'n ei gymryd a sut (!) a lle dan ni di bod hyd yma. Fe gafodd air gyda fi wedyn ac yn dweud bod tecst wedi'i gyrraedd gan griw Telesgop yn dweud y dylai ofyn be o'n i wedi'i wneud i fy nhroed! Bu'n rhaid i mi gyfaddef am y ddamwain! Embarrassing iawn!!