Monday 28 January 2008

Wellington





































28-01-08

Gadael Watson's Way a gyrru i Picton i ddal y fferi yn ol i Wellington. Cael syrpreis o glywed ein bod wedi cael ein huwch-raddio i Kaitaki Plus - ystafell arbennig gyda soffas moethus, te a choffi, gwin a chwrw, bwyd a'r rhyngrwyd am ddim!! Taith lyfli, braf iawn a'r Marlborough Sounds yn edrych yn hardd iawn.

Fe gyrhaeddom Wellington toc wedi 5yp a mynd i'n gwesty, y 'Cambridge'. Cadarnhau popeth ar gyfer ffilmio yfory.

29-01-08

Diwrnod y ffilmio!! Roedd 'Ffermio' wedi gofyn i mi wneud diwrnod o waith tra yma, felly heddiw, bum yn ffilmio eitem ar sefyllfa dwristiaeth SN a beth all Gymru ddysgu o'u profiad. Roedd Cadeirydd yr UK Sustainability Group wedi dweud y dylai Cymru wthio a marchnata'i hun fel SN Ewrop yn sgil newid ym mhatrwm teithio pobl yn dilyn y newid i'r hinsawdd. Roedd llu o lincs a chyfweliad wedi cael eu trefnu i mi ar gyfer heddiw ac fe fydd gweddill yr eitem yn cael ei gwblhau nol adre.

Codi'n gynnar tua 6.30yb, y boi camera, Grant, yn ein pigo i fyny am 8yb ac yn gyrru draw i 'Rocket Rentals', y cwmni ffilmio. Llwytho'r ger i gyd a chwrdd a Michael, y boi sain, ac ymlaen a ni i Barc Rhanbarthol Kaitoke. Cael briefing gyda'r Ranger cyn symud ymlaen i'r lleoliad ffilmio yn y parc. Dyma lle ffilmiwyd ardal Rivendell yn 'Lord of the Rings', i'r ffilm byffs yn eich mysg! Ffilmio 3 darn i gamera ger yr afon, ar y bont siglen. Gorffen erbyn 10.30yb a nol i Wellington ac i Scorching Bay. Ffilmio dau linc ar y traeth, yna pasio hen gartref Peter Jackson, cyfarwyddwr LOTR, sgriptwyr eraill y ffilm a chartref Jonah Lomu, cyn stopio am ginio ger y mor.

Digon o amser ganddom ni felly nol i Oriental Bay i neud linc arall, paned yn Lampton Quay cyn mynd i Dy'r Llywodraeth i setio fyny yn barod i'r cyfweliad gyda'r Gweinidog Twristiaeth, Damian O'Connor.

Y cyfweliad yn mynd yn gret a Lois yn cael y job i fod yn gyfrifol am y 'ffleci' - y reflector! Roedd Mr O'Connor yn arfer bod yn ffermwr ac wedi datblygu busnes ymwelwyr ar ei dir.

Mynd fyny i dop Mt Victoria wedyn i edrych lawr dros Wellington i wneud y darn i gamera ola. Gofyn i Grant a Michael wedyn i ffilmio un ei hunain er mwyn i griw Telesgop eu gweld pan adre. Doniol iawn!

Diwrnod da a'r tywydd yn chwilboeth! Y ddau yn dweud na fedren ni ddim fod wedi dewis diwrnod gwell!
Mynd am swper i le Siapanaeg, 'Chow', roedd y bois wedi'i awgrymu, ac yna am ddiod i'r 'Dragon Bar'.. ie, y ddraig goch! Dyma'r unig dafarn Gymreig yn hemisffer y de ac roedd y lle yn orlawn gyda baneri wedi'u llofnodi gan gyn-ymwelwyr! Fe welom nifer o rai roeddem yn eu hadnabod! Fe ychwanegom at un o'r baneri felly cadwch lygad allan amdano os ddowch chi draw rywbryd i Wellington! Mae'r NZ Rugby Sevens yn dechrau yma ddydd Gwener ac yn anffodus, dan ni'n ei golli. Fe fyddwn wedi symud i'r gogledd erbyn hynny! Mae fod yn dipyn o sbort a dwi'n siwr y byddai'r dafarn hon yn le da i wylio Cymru yn erbyn Fiji ddydd Gwener ac yna Lloegr ddydd Sadwrn! Bechod de!