Saturday 12 January 2008

Y Glaciers











12-01-08 Sadwrn

Fe yrrom i lawr y bore 'ma i'r Franz Josef glacier, un o glaciers enwoca' SN. Roedd y tywydd wedi troi, y niwl ar ben y mynyddoedd ac yn edrych yn llwydaidd ty hwnt. Mae'n debyg ei bod yn bwrw yma dros hanner yr amser ac felly, roedd ei chael hi'n sych yma am jyst bum munud yn wyrthiol!! Fe ges i fy mherswadio i gerdded rhywfaint i 'lookout point' i weld gwaelod y glacier. Roedd i fod yn ddeg munud o gerdded i rywun abl, ond i rywun ar un goes, mae'n fater gwahanol, ac roedd y llwybr i gyd yn mynd fyny rhiw!!! Roedd o'n dipyn o ymdrech ac fe gymerodd dipyn o amser ond roedd hi werth y cyfan pan weles i'r rhewlif. Ar ol sbel yn tynnu lluniau ac yn trio osgoi criw y 'magic bus' sy'n cyrraedd bob man mewn un tyraid mawr, fe ddechreuom ar y daith yn ol i lawr. Erbyn hyn, roedd hi'n dechrau pigo bwrw a'r niwl yn cau i mewn. Fe fuom yn lwcus i weld y glacier pan wnaethom ni achos erbyn diwedd y pnawn, doedd dim i'w weld!!

Fe gawsom ginio i gynhesu ym mhentref Franz Josef cyn symud ymlaen i'r pentref, a'r glacier, enwog arall, Fox glacier, a checkio i mewn i'r hostel yno - yr Ivory Towers. Yn tydi'n anhygoel sut dach chi'n gwerthfawrogi'r pethau lleiaf mewn bywyd wrth deithio?! Yn ein hystafell yma, mae ganddom ffenestr, drws i fynd allan i batio bach, mirror, chest of drawers a hooks ar y wal! Efallai nad ydi hynna'n swnio'n lot i chi, ond mae'n nefoedd i ni, o ystyried, yn ein hostel cyntaf yn Auckland, dim ond dau wely oedd ganddom ni mewn stafell di-ffenestr a di-bob-dim-arall!!!

Beth bynnag, fel ro'n i'n dweud, roedd y tywydd wedi'n cau i mewn felly fe gawsom brynhawn a noson dawel o flaen y teledu yn gwylio ffilmiau amrywiol. Roedd y cadeiriau yn yr ystafell deledu wedi dod o hen sinema yn nhref Hokitika ar yr arfordir ac felly, roedd o wir yn teimlo fel ein bod mewn sinema fechan gartrefol!

Roedd y ffilm 'First Knight' ar y teledu neithiwr hefyd, - y ffilm gafodd ei ffilmio yn ardal Trawsfynydd, os dwi'n cofio'n iawn. Roedd hi'n braf iawn gweld y golygfeydd o Gymru!

13-01-08 Sul

Mae'n fore Sul ac mae Lois di mynd ar daith hanner diwrnod i gerdded rhan o'r glacier ( fe geith hi son am hyn nes mlaen). Fy nod i heddiw 'ma oedd gweld y glacier mewn hofrennydd. Be mae'n nhw'n ei ddweud am Mohammed? 'If you can't take Mohammed to the mountain, you bring the mountain to Mohammed', neu rhywbeth felly! Wel, dyna oedd fy mwriad i ond mae'n debyg ei bod hi'n rhy niwlog i'r hofrennydd a fyswn i'n gweld dim byd!!! Dario!

O ie, newydd gofio, pan ro'n i'n edrych ar wahanol bapurach y noson o'r blaen yn ceisio penderfynu pa gwmni hofrennyddion a pha daith i'w gymryd, fe welais i bod glacier ar gael yma o'r enw ... wait for it... y 'Wigley glacier'!!! Allwch chi gredu'r peth?! Pwy oedd y 'Wigley' yma tybed? Neu oedden nhw'n gwbod fy mod i ar fy ffordd?!! Anhygoel!

Reit, tro Lois a hanes ei thaith hi heddiw 'ma:

Helo na, Lois sydd 'ma....wel na brofiad oedd cerdded y glacier. Fe benderfynais fynd ar daith hanner diwrnod i fyny Fox Glacier, taith o 4 awr i gyd. Fe gyrhaeddais i y pwynt cwrdd am 10.15yb lle cafodd 30 ohonom gyfle i cael ein sgidiau cerdded arbennig, sannau trwchus, cotiau glaw a bagiau cefn (os oedd angen) ac hefyd y crampons ar gyfer yr ia. Ychydig o drafod am iechyd a diogelwch a wedyn pawb ar y bws am daith o 5 munud i'r maes parcio ar waelod y glacier.

Ar ol rhannu i ddau grwp o 15eg fe ddechreuom gerdded yn raddol am 1/2 awr tuag at y goedwig yn yr heulwen a wedyn dechrau cerdded yn raddol, i fyny stepiau ar raddfa o 45 gradd am 3/4 awr!!! Am waith caled ond roedd yr olygfa yn anghygoel ac roedd y tywyswr yn ddiddorol iawn gyda'u ffeithiau. Unwaith i ni gyrraedd ochr y glacier fe wisgom y cotiau a'r crampons ar ein traed a dechrau cerdded ar yr ia.

Mae'r glaciers yn symud ymlaen ac yn ol yn ddyddiol, ond nid oedd yn bosib i weld hyn gyda'r llygad, ond roedd yn bosib yn wythnosol. Mae'r glacier yn cael ei ddal gan bwysau yr eira ar dop y glacier a'r ia yn meddalu ar waelod y glacier. Mae'r cynnydd yn yr eira ar y top yn achosi i'r glacier i symud ymlaen, ac mae'r ia yn toddi yn gyflymach yn y blaen gan achosi'r glacier i symud yn ol. Ar gyfartaledd mae'r Fox Glacier wedi bod yn cynyddu ers 1985.

Mae blaen y glacier yn 350m o uchder;
Mae'r glacier yn gorffen ar bwynt o 250m uwchben lefel y mor;
Mae 'na 35-45m o eira yn cwympo bob blwyddyn;
http://www.foxguides.co.nz/

Profiad gwych ac yn werthchweil i ymweld ag ef, er roedd y coesau wedi blino erbyn y p'nawn!

Abel Tasman i Greymouth
















11-01-08 - Gwener

Fe ddechreuon ni y bore ma ar ein taith hir i lawr arfordir gorllewinol Ynys y De o Motueka ym mharc Abel Tasman i Greymouth. Fe gymrodd hi ryw 2 awr i ni gyrraedd y Buller Gorge ger Westport ac fe gafodd Lois y cyfle yno i gerdded ar draws y bont siglen hiraf yn Seland Newydd - dros 100 metr. Ar ol bwyta'n brechdanau yno, fe symudom ymlaen drwy Westport a chyrraedd yr arfordir, ac am arfordir! Roedd y mor yn wyllt, y coed yn blastar ar hyd ochr y creigiau yn syrthio'n syth i'r mor oedd mor las! Doedd dim tai ar gyfyl y lle. Buom yn gyrru ( wel, Lois yn gyrru!) reit wrth ymyl yr arfordir am filltiroedd ac roedd yn le prydferth iawn.

Fe arhosom i gael egwyl a phaned bach yn Punakaiki, pentref bach glanmor sydd yn enwog am y creigiau ger y mor sy'n edrych fel crempogau!! Mae'r cerrig wedi erydu yn y fath fodd fel bod llinellau ar eu traws ac mae nhw'n edrych fel tyrrau o grempogau ar ben ei gilydd! Roedd o'n dweud bod 10 munud o gerdded i gyrraedd y creigiau ar hyd llwybr pwrpasol ac ro'n i'n reit benderfynol o'u gweld. Yn lwcus, roedd gan y ganolfan ymwelwyr gadair olwyn i ni gael ei benthyg ac felly, bu Lois yn gweithio'n galed yn fy ngwthio o gwmpas y llwybr i weld yr olygfa. Ac am olygfa werthchweil! Roedd y mor wedi creu tyllau ( 'blowholes') o amgylch y creigiau a phan roedd y mor ar ei anterth, roedd o'n cael ei chwipio i fyny'r creigiau drwy'r tyllau hyn ac yn chwistrellu dros y lle! Fe gawsom ein gwlychu sawl tro!

Beth bynnag, ar ol neidio yn ol i'r car, fe symudom ymlaen i Greymouth, tref digon di-nod... llwyd mewn enw, llwyd mewn cymeriad hefyd 'swn i'n ddweud! Roedd o jyst yn le i roi ein pennau i lawr am noson cyn symud ymlaen a'r daith yfory. Roeddem yn aros mewn hostel o'r enw 'Noah's Ark' - adeilad oedd yn arfer bod yn fynachdy - ac roedd pob ystafell gyda thema anifeiliaidd! Roedden ni'n aros yn 'stafell y moch! Dwi'm yn gwbod oedd y perchennog yn ceisio dweud rhywbeth wrthom ni!!