Wednesday 9 January 2008

Parc Abel Tasman











Fe ddechreuon ni o Picton yn gynnar y bore i fynd ar y siwrnai hir a throellog(!) i ardal Parc Abel Tasman reit yng nghornel gogledd-orllewinol Ynys y De. Ar y ffordd, fe stopion ni am frec a phaned yn Richmond, ger dinas Nelson, i gwrdd a Heledd (Lewis gynt) o Abertawe sy'n byw yno ers naw blynedd bellach. Mae'n briod a Nigel, gyda dau o blant, Harri sy'n 7 oed a Dylan sy'n 4 oed. Roedd hi'n braf iawn dal i fyny a chofio'n ol am y cyfnod pan roeddem yn nabod ein gilydd dros ddeg mlynedd yn ol erbyn hyn. Fe gafodd Lois sioc hefyd o sylweddoli'r cysylltiad rhwng y ddwy. Mae Heledd yn ferch i'w chyn-bregethwr ym Mheniel, ger Caerfyrddin!

Fe symudom ni ymlaen wedyn i dre Motueka gan aros mewn lle lyfli o'r enw'r 'Laughing Kiwi'. Fe aethom am dro i draeth Kaiteriteri a bwcio dwy daith ar gyfer heddiw ma ... fe aeth Lois i kayakio o amgylch y parc ac fe es innau ar gwch i weld y golygfeydd gan gadw fy nhraed yn sych!! Fe ges i fy nghario ymlaen i'r cwch ac i ffwrdd gan Maori reit gyhyrog allai chwarae rygbi dros Gymru yn hawdd iawn!!
Roedd 'na olygfeydd hardd iawn i'w gweld. Mae'n barc bendigedig sydd ddim wedi cael ei sbwylio o gwbl. Does dim ffyrdd yn y parc; fedrwch chi gyrraedd nunlle mond ar hyd y dwr neu ar hyd y llwybrau cerdded amrywiol. Fe welodd y ddwy ohonom rannau gwahanol o'r parc ac o bersbectifs gwahanol. Fe welsom ein dwy yr 'split apple rock' - craig gron anferth wedi'i hollti'n ddwy ac roedd y morloi hefyd yn bictiwr! Bu Lois hefyd yn cerdded rhywfaint a chael cyfle i ymlacio ar ambell i draeth!

Roedd heddiw'n ddiwrnod hyfryd - fe ddechreuodd yn braf a'r haul yn gwenu ond erbyn y pnawn, roedd hi'n eitha ryff ar y mor yn dod yn ol, ac roedd stumogau'r ddwy ohonom yn dioddef braidd!!