Thursday 17 January 2008

Milford Sound




18-01-08: Te Anau: Milford Sound

Ie, fel mae'r enw'n ei awgrymu, mae 'na gysylltiad Cymreig yma eto! Gwr o'r enw John Gronow ( Goronwy, dwi'n credu!) enwodd y Sound. Fe'i galwodd yn Milford Haven ar ol ei dref enedigol i ddechrau ac yna'i addasu i gyd-fynd gyda'r sounds eraill yn yr ardal. Mae Milford Sound yn llai na Doubtful Sound ond yn llawer mwy poblogaidd. Mae'r mynyddoedd sy'n amgylchynnu'r mor yn serth iawn, serthach na Doubtful Sound, ac mae'n ddwfn tu hwnt, tua 400 metr. Fe gawsom fore braf i fynd ar y cwch, ond yn anffodus, oherwydd poblogrwydd y lle, nid ni oedd yr unig rai yno yn ceisio mwynhau'r golygfeydd. Roedd byseidiau o bobl yn cyrraedd bob awr ac yn tynnu braidd o harddwch a llonyddwch y lle.

Roedd y daith yno fodd bynnag yn fater gwahanol. Roeddem wedi dechrau'n fore er mwyn osgoi'r traffig a'r twrists! Wth fynd o amgylch bob cornel bron, roedd 'na "Waw!" yn dod o enau un ohonom! Roedd y golygfeydd yn ein gwneud yn geg-agored! Mynyddoedd di-ri o flaen llynoedd llonydd, eira man ar ben y rheiny, clogwynni anferthol a rhaeadrau pwerus... roedd hi'n 'overdose' bron o olygfeydd!

Roedd yn rhaid gyrru drwy'r Homer tunnel i gyrraedd Milford Sound. Does gan hwn ddim i''w wneud a'r Simpsons; yn hytrach, mae'n un 'homer' o dwnel drwy'r graig, ac yn syrthio 200 metr yn sydyn o fewn 1.2km. Ar ben arall y twnel, mae'r Cleddau Canyon, ac ie, fel dach chi eisoes wedi'i ddychmygu, y cysylltiad Cymreig eto! Mae'r afon Cleddau fel yn Aberdaugleddau yn gweithio'i ffordd i lawr y mynydd i'r Sound. Mae 'na Mount Pembroke yma hefyd ( yr un yn y llun tu ol Lois a fi!) gyda llaw!

Doubtful Sound





16-01-08 + : Queenstown i Te Anau

Fe ddechreuom linc 'di lonc y bore ma o Queenstown ar ein taith i Te Anau yng mhegwn de-orllewinol Ynys y De. Fe gyrhaeddom Te Anau ddechrau'r pnawn ac ar ol bwyta'n brechdannau ger y llyn, fe aethom i weld lle roeddem i aros. Mae 'Rosie's Homestay' yn union fel mae'n ei awgrymu.. da ni'n aros yn ei chartref. Dim ond lle i 10 sydd i aros yma a dan ni'n defnyddio cegin, lolfa a 'stafell molchi y teulu. Mae Rosie yn lyfli, gwraig gartrefol iawn, hoff iawn o goginio, ac mae'i gwr, Alistair, yn ymgynghorydd sy'n cynnig cyngor a rhybuddion ar sut i ddelio gydag avalanches. Mae ganddyn nhw 4 o blant ac maen nhw'i gyd yn bobl sy'n hoffi bod allan yn yr awyr agored. Ar ol setlo i mewn a threfnu teithiau ar gyfer y ddau ddiwrnod nesaf, fe glywsom ei bod hi'n dod yn storm y noson honno. Wrth i'r glaw a'r gwynt agosau dros y mynyddoedd tuag atom, roedd y golygfeydd harddaf i'w gweld. Roedd dwy enfys gron o'n blaenau ar un pwynt!

17-01-08

Roedd y storm a'r holl law ddaeth neithiwr wedi golygu bod diwrnod anhygoel o'n blaenau heddiw 'ma. Roeddem wedi trefnu i fynd i weld Doubtful Sound ac roedd hi'n dipyn o daith i gyrraedd yno yn y lle cyntaf. Roedd yn rhaid dechrau'n gynnar, gyrru i Manapouri, dal cwch yno a mynd ar daith awr ar hyd llyn Manapouri niwlog iawn i gyrraedd West Arm. Mae'n le anghysbell ond tlws iawn.

Yn West Arm, mae pwerdy hydro-electrig mwyaf Seland Newydd ac roedd hi'n dipyn o ymdrech i'w adeiladu nol yn y 60au gan fod y cyfan dan ddaear! Fe gymrodd hi 9 mlynedd i gyd, 1800 o ddynion o 22 o wledydd i gwblhau'r prosiect. Fe deithiom 2km dan ddaear i weld prif neuadd y pwerdy. Mae'n gweithio drwy bwmpio dwr o Lyn Manapouri ( sydd dipyn uwchlaw lefel y mor) drwy dyrbeiniau anferth sydd wedyn yn mynd drwy dwnel anferth drwy'r graig ac yn dod allan yn Doubtful Sound.

Ar y ffordd o West Arm i Doubtful Sound, fe fu gyrrwr y bws yn dweud wrthom am y rhaeadrau sy'n yr ardal. Mae 'na un ag enw Cymraeg ond doedden nhw ddim yn sicr o'i ystyr erbyn hyn. Fe gafodd ei enwi gan Gymro oedd yn hela morfilod ac fu'n fyw yn Sydney a'r enw oedd gan yrrwr y bws oedd rhywbeth tebyg i 'Cleve - garth'! Roedd o wedi cael ar ddeall mai 'hanging garden' oedd ystyr yr enw ond doedd hynny ddim yn gwneud fawr o synnwyr i ni! Dwi'n credu ei fod wedi camgymryd 'garth' am 'gardd' ond hefyd, mai 'llif' nid 'cleve' ydi gwir enw'r rhaeadr a bod pobl wedi methu ynganu'r gair! Yn hwyrach ymlaen yn y dydd, fe gawsom 'bren-wef' a chredu mai 'craith' oedd y 'garth' i fod. Ai 'Llif-y graith' oedd yr enw gwreiddiol tybed o ystyried bod y rhaeadr wen hon yn graith o ryw fath ar dirlun gwbl wyrdd di-ben-draw?

Fe neidiom ar gwch wedyn a mynd ar daith dair awr o amgylch y Sound. Roedd o'n brofiad anhygoel. Gan ei bod hi mor anodd ei chyrraedd, does dim gormod o ymwelwyr yn dod yma ac felly ni oedd yr unig gwch yn yr ardal. Roedd glaw a storm neithiwr hefyd wedi golygu bod llond lle o raeadrau yn llifo i lawr ochr y mynyddoedd yn syth i'r mor. Dyma'r sound mwyaf o'r rhai sydd ar yr arfordir hwn, ac mae gweld y mynyddoedd unionsyth sy'n tyrru uwch ein pennau gan wybod fod y serthni hwnnw yn parhau oddi tanom yn anhygoel. Roedd hi'n ardal mor brydferth, mor dawel a llonydd, heb ei sbwylio o gwbl. Fe welsom forloi yn torheulo ar graig ac yna ddolffiniaid yn pasio'r cwch ar ein ffordd yn ol. Lle gwbl heddychlon.