Saturday 29 December 2007

Penrhyn Coromandel




30/12/07: Fe bigon ni'r car hurio y bore yn Auckland ac ar ol trio dod i arfer a dreifio car automatic ac chwilio am siop i brynu air bed a phwmp troed, fe ddechreuon ni ar ein taith i lawr tuag at benrhyn y Coromandel. Fe gymrodd hi 3-4 awr i ddod draw yma felly roedd hi'n ddiwedd pnawn arnom yn cyrraedd lle o'r enw Hot Water Beach - traeth lyfli, addas i syrffio, lle mae un darn bach ohono yn hynod brysur. Mae pobl yn tyllu twll yn y tywod gyda rhaw ac yn eistedd yn y dwr sy'n codi. Mae'n gynnes iawn ac yn ferwedig hyd yn oed mewn mannau, fel y dysgais i yn go sydyn pan rois i fy nhroed mewn un pwll penodol. Aw!

Beth bynnag, erbyn neithiwr, roedden ni wedi setlo i mewn i'n hostel sydd reit ger y traeth ac mae'n le bendigedig. Mae na gymaint i wneud ma - snorklo, nofio, kayakio, pysgota.. ayyb.. ydwi'n gwneud chi'n genfigennus?!!! Dan ni bod yn sortio'n hunain allan heddiw, yn cael bwyd, sgwennu ar hwn ayyb.. ( - dydy hi ddim yn hawdd cael slot rhydd i ddefnyddio'r rhyngrwyd ym mhob man!!) Gan bod cymaint i'w wneud a'i weld yma, dan ni di penderfynu aros yma am ychydig ddyddiau yn lle mynd lawr am Mount Maunganui. Da ni di bwcio trip ar gwch fory ac wedi bwcio bwrdd bwyd ar gyfer nos fory - nos Galan.. Fe gewch chi'r hanes eto! Hwyl am y tro! x

Auckland







Kia Ora!

Roedd Auckland yn le anhygoel. Ar ol dwy flight hir heb fawr o gwsg a by-passio dolig yn gyfangwbl, fe gyrhaeddon ni Auckland ar ddydd San Steffan am 10.00 y bore wedi blino'n rhacs! Roedd ein hostel yn agos iawn i'r Skytower ac yn gyfleus iawn i'r dre ond roedd ein stafell fel carchar, heb ffenestr o gwbl. Fe drion ni gario mlaen a gwthio'n erbyn y blinder drwy'r dydd ac fe lwyddon ni tan tua 6.00! Erbyn hynny, doedd yr un ohonom ni'n gallu canolbwyntio, meddwl na siarad! Fe gawson ni'n synnu pa mor dawel oedd hi ym mhob man a faint o bobl Asiaidd oedd o gwmpas y lle hefyd.

Beth bynnag, ar ol 13 awr o gwsg, roedd y ddwy ohonom ni'n teimlo'n dipyn gwell, ac yn barod i ddechrau gweld pethau! Fe gymron ni'r fferi draw i Devonport ( www.devonport.co.nz), gyferbyn bron a chanol y ddinas, tref fechan glan mor gyda'r golygfeydd mwyaf anhygoel o harbwr Auckland o dop mount victoria. Ar ol mynd am dro, a gwlychu'n traed ar draeth Chelntenham, cael cinio yn un o gaffis y dre, fe aethom yn ol tuag at Auckland. Roeddem yn teimlo'n eitha blinedig ( y jetlag mae'n siwr) ac felly, cawod sydyn i ddeffro amdani, ac off a ni eto! .. y tro hwn i fyny'r Skytower (www.skycityauckland.co.nz), twr uchel sy'n edrych reit dros y ddinas. Don i ddim yn gallu edrych lawr yn dda iawn heb deimlo'n sal a deud y gwir! Eniwe, gwydraid bach o win yno yn gwylio'r haul yn machlud ac yna fe aethom i gwrdd ag Aldwyn ac Angharad Jones, cwpwl o Gaerfyrddin sydd wedi dod draw i ymweld a'u merch, Carys, a'i chariad Leighton ( sy'n byw yn Devonport, gyda llaw, am flwyddyn). Roedd Aldwyn yn arfer bod yn Chief Inspector heddlu Dyfed Powys cyn ymddeol ac mae di bod yn gwneud ambell wythnos o waith gyda Lois! Mae hefyd yn nabod Rob Sain yn dda iawn!! Cael noson ddifyr yn eu cwmni dros swper lawr yn yr harbwr.

29/12/07: Fe gymron ni'r fferi eto, ond y tro hwn i ynys Waiheke (www.tourismwaiheke.co.nz). Ar ol taith fws, fe gyrhaeddom le o'r enw Palm beach gyda'r traeth mwyaf bendigedig. Mae'r haul di bod yn tywynnu yma ond mae'n gryf iawn ( yn sgil y twll yn yr haenen oson sydd reit uwchlaw SN, mae'n debyg!) felly mae'n rhaid bod yn ofalus! Fe fuon ni hefyd yn crwydro o gwmpas pentref Oneroa a chael cinio hwyr yno cyn dal y fferi'n ol.