Wednesday 23 January 2008

Christchurch











23.01.08 & 24.01.08: Christchurch

Fe adawsom Lyn Tekapo yn gynnar y bore a gyrru drwy ardal McKenzie gyda'r holl gaeau gwastad, fflat yma oedd angen eu dyfrhau. Mae'n debyg bod yr ardal yn dioddef o'r haf poethaf ers 10 mlynedd. Fe arhosom am baned yn Ashburton cyn parhau a'n taith i Christchurch. Ar ol checkio i mewn i'r 'Foley Towers', fe aethom am dro i'r dre i gael golwg o gwmpas. Ar hyn o bryd, mae'r 'World Busking Festival' ymlaen yma ac mae'r strydoedd yn llawn o berfformiadau a rhyfeddodau!

Heddiw, buom am dro i benrhyn Banks, rhyw awr a 'chydig o Christchurch. Roedd y golygfeydd o'r tirlun a'r arfordir yn odidog ond doedd y tywydd ddim ar ei orau. Fe gyrhaeddom y brif dre, Akaroa, erbyn cinio ac, felly, fe gawsom gyfle i fwynhau'n bwyd tra'n edrych allan i'r bae gyda'r gobaith o weld haid o ddolffiniaid gan bod yr ardal hon yn frith ohonynt, ond dim lwc heddiw. Roedden nhw'n cadw draw!

Ar ol cyrraedd nol i Christchurch, buom yn aildrefnu'n taith. Dan ni wedi penderfynu peidio mynd i Hong Kong wedi'r cyfan gan y bydd hi'n anodd iawn i mi deithio a gweld o amgylch yno heb gar! Mi fyddai'n ymdrech a hanner! Dan ni wedi penderfynu felly y byddwn ni'n aros yn ardal y Bay of Islands i'r gogledd o Auckland am ychydig ddyddiau'n hirach cyn dychwelyd yn ol ar y 10fed o Chwefror fel yr amserlen.

Lake Tekapo







22.01.08: Lake Tekapo

Gadael Mt Cook yn y glaw y bore ma... wedi bwriadu mynd ar daith 4x4 i weld y Tasman glacier ond fawr i'w weld yn y niwl a'r glaw felly mlaen a ni am Lake Tekapo, rhyw awr i lawr y ffordd. Roedd hi'n bwrw yno hefyd pan gyrhaeddon ni ond fe gliriodd erbyn dechrau'r pnawn, - digon o amser i ni weld y pentref bychan hwn. Mae'r llyn hwn, fel llyn Pukaiki ger Mt Cook yn las iawn iawn! Mae i wneud a'r calch sydd wedi'i grafu i ffwrdd o'r graig wrth i'r glaciers doddi. Y calch hwnnw sy'n gwneud i'r llyn edrych yn laethog iawn ac yn las iawn pan fo'r haul yn tywynnu a'r awyr yn las uwch ei ben. Beth bynnag, wedi i ni fynd i weld 'The Church of the Good Shephard' a'r cerflun o gi defaid gerllaw sydd i ddangos pa mor ddibynnol oedd ardal McKenzie ar gwn defaid, fe ddechreuodd hi fwrw eto!!

Ar ol cwpwl o oriau mewn caffi rhyngrwyd ac yna'n golchi dillad a sortio'n pethau, fe laciodd ddigon i ni fentro allan eto. Fe aethom am bryd o fwyd gyda Dafydd Jones, milfeddyg sy'n wreiddiol o Chwilog ger Pwllheli, sydd draw yma'n gweithio am gwpwl o fisoedd, a'i ffrind a'i gyd-weithiwr, Haydn, sy'n wreiddiol o'r ardal hon. Fe gawsom noson ddifyr yn eu cwmni yn rhannu profiadau teithio a sefyllfa amaeth y ddwy wlad!