Monday 11 February 2008

Diwedd y daith

Allai'm credu bod chwe wythnos a hanner wedi diflannu mor sydyn! Mae jyst wedi hedfan! Beth bynnag, ro'n i'n meddwl y byddwn i'n cloi'r blog drwy son am rai o uchafbwyntiau'r daith.

Hoff olygfa: Doubtful Sound - mor llonydd, tawel a thlws.
Cape Rienga - pen draw'r byd!

Hoff weithgaredd: Molchi mewn mwd yn Rotorua

Hoff daith: rownd y gwinllanoedd yn Blenheim neu, yn ail agos, y daith ar y mobility scooter!

Hoff draeth: Pakiri, Northland neu Allan's Beach, Otago

Hoff ddinas:Dunedin neu Christchurch

Siom fwya'r daith: y ddamwain i'r droed a'r whale watching yn Kaikoura

Hoff gan y daith: Jack Johnson: 'If I had eyes...'

Hoff bryd bwyd: bwyd mor yn Reef, Dunedin

Hoff win y daith: Pinot Gris 07: Bladen, Blenheim

Yr hostel gorau: On the Beach Backpackers, Whitianga (pobl glen & agos iawn i'r traeth)
YHA, Wellington ( cyfleusterau fel gwesty)
Rosie's Homestay, Te Anau (cartrefol & pobl wybodus, ddifyr)
Watson's Way, Renwick (hamddenol & pobl lyfli)

Yr hostel waethaf: Surf 'n' Snow, Auckland (carchar!)

Hoff atgof: Storm Te Anau, gweld y dolffiniaid yn Whitianga, gyrru fyny rhiw sertha'r byd a'r ymdrech i gyrraedd y lookout i'r Franz Josef Glacier.


Hoff le: ym... rhy anodd dewis!


DIOLCH yn fawr iawn i chi gyd am ddarllen hwn ac am eich geiriau o gefnogaeth! Roedd eich sylwadau yn hwb mawr i ni pan nad oedd ganddom awydd i fynd ati i chwilio am gyfrifiadur a threulio oriau yn sgrifennu a llwytho lluniau bob nos!! Gobeithio eich bod wedi mwynhau jyst cymaint a ni'n dwy!

Mererid x

Gadael SN

9/02/08 - Waiwera - Auckland

Fe adawsom Pakiri y bore ma a symud i lawr yr arfordir yn nes tuag at Auckland a'r maes awyr. Fe arhosom yn Waiwera a threulio'r dydd yn y 'thermal spa'. Roedd ganddyn nhw nifer o byllau geo-thermal amrywiol eu tymheredd - roedd rhai 31 gradd, 32, 36, 40 a 48. Fe dreuliom ein hamser yn mynd o'r pwll 31 gradd i'r un 40 gradd gan obeithio eu bod yn gwneud lles i fy nhroed a fy nghefn! Bum yn ceisio rhoi pwysau ar fy nhroed a cherdded rhywfaint o dan y dwr.

Ar ol cawod, fe yrrom tuag at y maes awyr, gadael y car a checkio i mewn yn gynnar iawn. Roeddem wedi gobeithio y byddai bod yno'n gynnar yn rhoi siawns i ni gael 'up-grade' ar yr awyren ond nid felly bu! Fe gawsom gadair olwyn i fy helpu o gwmpas y lle, a chael sedd i dri rhwng y ddwy ohonom er mwyn cael digon o le i'r goes a'r crutches.

Mae'r tywydd heddiw wedi troi ac mae di bod yn gymylog drwy'r dydd ac yn bygwth glaw. Er nad oedd y ddwy ohonom am adael, roedd yn rhaid cyfaddef bod y tywydd yn helpu i leddfu rhywfaint ar y siom ac yn ei gwneud hi'n dipyn haws i wisgo jins ganol pnawn! Yn y maes awyr, fe gwrddon ni Gethin Havard a'i deulu. Roedden nhwythau hefyd wedi bod yma am 6 wythnos ac wedi cael amser bendigedig. Roedden nhw'n hedfan rhyw 1 awr cyn y ddwy ohonom ni ac yn teithio drwy LA yn hytrach na Hong Kong. Mae nhwythau hefyd wedi bod yn ysgrifennu blog: www.getjealous.com/cymro

Roeddem i fod i hedfan am bum munud i ddeuddeg ond yn sgil problemau technegol gyda'r injan, roedd hi'n 4 o'r gloch y bore arnom yn hedfan! Buom yn treulio'n hamser yn ceisio ail-drefnu'r bws o Heathrow i Gaerdydd ac yn ffonio'n perthnasau.

10/02/08:
Cyrraedd Hong Kong ganol bore a threulio rhyw awr yno cyn mynd yn ol ar yr un awyren a pharhau'r daith i Heathrow. Fe gyrhaeddom dir Lloegr tua 4.20 yn y pnawn a dal bws yna am 5.15. Roedd amser yn brin iawn ond diolch i'r cerbyd bach gariodd fi o'r awyren at Immigration, fe lwyddon ni i'w ddal mewn pryd. Roeddem yn ol yng Nghaerdydd erbyn 8.15 ond roedd gan Lois daith pellach yn ol i Gaerfyrddin. Fe ddaeth ei rhieni a Martin draw i'w nol.

Pakiri







6/02/08

Diwrnod Waitangi heddiw, felly diwrnod o wyliau i bawb. Gadael Whatuwhiwhi a gyrru tua'r de. Wedi gobeithio gweld Chiropractor gan fy mod wedi gwneud rhywbeth i fy nghefn ddoe, ond pob man ar gau yn sgil y gwyliau.

Tra'n teithio, cael tecst gan Sian, ffrind Lois, yn dweud ei bod hi ar ei ffordd i fyny'r gogledd ac y byddai'n neis cwrdd i fyny. Cwrdd felly yn Warkworth, tref tua awr i'r gogledd o Auckland, i gael diod a rhannu hanesion. Gyrru wedyn tuag at yr arfordir i Leigh, ac ar ol helpu Sian i ddod o hyd i le i aros am y noson, fe aethom ymlaen i wersyll gwyliau traeth Pakiri a dad-bacio yn ein caban. Mae'r gwersyll mewn safle anhygoel, reit o flaen y mor a'r traeth gwyn mwyaf ysblennydd!

Cwrdd Sian yn y Sawmill Restaurant i gael swper - lle gwych gydag awyrgylch da. Mae nhw'n cynnal cyngherddau a gigs yma o dro i dro a rhyw bythefnos ar ol i ni adael, mae Crowded House, y grwp o SN yno'n chwarae!

07/02/08
Cael apwyntiad gyda Chiropractor yn Wellsford, rhyw 20 munud i ffwrdd, ganol bore, felly yno amdani. Fe gliciodd fy ngwddf i'w le, fy hip a canol fy nghefn a phum munud yn ddiweddarach, roeddwn yn ol ar y stryd yn gobeithio'r gorau y byddwn yn teimlo'n well cyn hir! Nol wedyn i Pakiri i symud caban. Gan ein bod heb ddod a llestri a chyllyll a ffyrc gyda ni, roedd perchennog y lle yn teimlo ei bod hi'n dipyn haws i'n symud i gaban gwell gyda chegin fechan ynddi na dod o hyd i bob dim! Roedd ganddom le ffantastig - cegin, teledu, lle i 5 gysgu, meicrodon ayyb.. a golygfa o'r mor o'r verandah! Lyfli!

Fe dreuliasom y pnawn hwnnw yn ymlacio a thorheulo ar y traeth - Paradwys llwyr!

Ar ol swper yn y caban, fe ddaeth Sian draw i'n gweld. Yn anffodus, roedd batri ei char yn fflat erbyn iddi geisio gadael, ac felly bu'n rhaid iddi aros draw. Diolch byth bod ganddom ddigon o welyau yn y caban y tro hwn!

8/02/08
Y cefn yn dal i frifo y bore ma - fawr gwell o gwbwl! Dwi ddim yn creu bod y crutches yn gwneud dim i'm 'posture' ac mae'r holl bwysau ar y goes chwith, yr hopian a'r symudiadau awkward yn dechrau dweud ar fy nghefn! Fe dreuliasom y dydd yn ymlacio ar y traeth a'r caban gan nad oedd yr un o'r ddwy ohonom am wneud rhyw lawer. Erbyn y nos, roedd hi'n amser pacio... am y tro olaf! Ie, dyma'n noson olaf yn SN, ac roedd hi'n dipyn o job i ffitio popeth i mewn yn y bagiau!