Sunday 3 February 2008

Taumarunui i Paihia

31/01/08: Taumarunui i Orewa

Gadael Siwan a'i theulu y bore ma a dechrau ar ein taith hir yn ol i'r gogledd. Gan ei bod wedi bod yn bedair wythnos ers i fi gael y 'moon shoe', dyma benderfynu mynd heibio'r ysbyty yn Taumarunui i weld be di'r sefyllfa. Erbyn hyn, mae'r esgid i ffwrdd a dwi'n gwisgo 'tube' tynn ond dal ar y crutches. Dwi hefyd i fod i ddal i wisgo'r esgid bob hyn a hyn a trio rhoi pwysau ar y droed drwy ddechrau cerdded heb crutches. Mae'n rhyddhad i gael yr esgid i ffwrdd, dim ond am ychydig, ond mae dal yn rhwystredig, gan fy mod yn dal ar un goes, yn ddibynnol ar y crutches, yn methu gyrru ac methu gwneud y rhan fwyaf o bethau!!!! Fe arhosom am ginio yn Te Kuiti a gwthio ymlaen yna am rhyw ddwy awr arall i Huntly. Ar ol paned yno i dorri'r daith, fe aethom ymlaen drwy Auckland a glanio mewn tref glanmor hyfryd o'r enw Orewa. Roedd y lle braidd yn dwristaidd iawn ei naws, ond roedd y traeth 3km o hyd yn brydferth a thawel iawn.





1/2/08 - Mae'n fis Chwefror yn barod.. mae amser jyst yn hedfan! Wel y bore ma, roeddem yn parhau a'n taith ac fe yrrom o Orewa am rhyw dair awr cyn cyrraedd Paihia, tref glanmor arall sy'n ganolbwynt i weithgareddau ar y mor yn bennaf o amgylch yr ynysoedd cyfagos.

No comments: