Sunday 3 February 2008

Paihia

2/02/08 - Paihia

Codi'n fore a mynd i lawr i'r dre i ddal cwch hwylio - y Gungha II - cwch 65 troedfedd, ei berchennog, Mike, o Ganada. Roedd o wedi bod yn teithio'r mor am dros 20 mlynedd a'i blant wedi cael eu magu ar y mor, yn gwneud cwrs addysg 'correspondence'. I'w alluogi i wneud hyn, roedd yn treulio 2 fis bob blwyddyn yn gweithio fel pysgotwr yn British Columbia gan ennill digon o gyflog i'w gadw ef a'i deulu drwy'r flwyddyn.






Roedd yn drip da iawn. Fe welsom yr ynysoedd amrywiol cyn stopio am ginio ger un traeth penodol. Fe gafodd Lois a'r lleill gyfle i fynd i'r traeth a cherdded i fyny'r mynydd lle roedd golygfeydd 360 gradd o gwmpas yr ynys a'r lleill o'i gwmpas. Yn y cyfamser, fe es i i kayakio! Ie, kayakio, gredech chi neu beidio! Rhywsut neu'i gilydd, fe lwyddais i shufflo fy mhen ol o gefn y cwch i'r kayak ac fe dreulais rhyw hanner awr yn kayakio o gwmpas yr arfordir oedd yn brofiad hyfryd.

Ar ol i bawb ddychwelyd i'r cwch, a chael y cyfle i fynd i snorklo a nofio, fe gawsom ginio ar ei bwrdd. Fe dreuliasom y pnawn yn torheulo ar y cwch ac yn mwynhau'r golygfeydd ffantastig. Roedd hi'n ddiwrnod gwych - yr haul yn tywynnu ( yn boeth iawn yma heddiw; diolch byth am awel y mor!!) a digon o wynt i chwythu'r hwyliau!
Heibio bar yn Paihia i weld sut wnaeth Cymru yn y NZ International Rugby 7's! Gweld eu bod yn y rownd gyn-derfynol yn erbyn yr Alban i ennill Plat y Collwyr!!! Fe guron nhw'r gwrthwynebwyr o 22 - 12! Roedden nhw wedi bod yn chwarae yn erbyn Fiji a Lloegr yn eu grwp.


No comments: