Sunday 3 February 2008

Penrhyn Karikari

3/02/08:
Mor wahanol roedd y sefyllfa y bore ma! Derbyn tects am 7.30 y bore yn dweud bod Cymru wedi curo Lloegr yn ngemau'r Chwe Gwlad yn ol ym Mhrydain! Anhygoel!

Gadael Paihia y bore ma ac aros am ychydig yn y pentref agosaf, sef Waitangi - lle hanesyddol yn hanes Seland Newydd gan mai yma arwyddwyd y 'Treaty of Waitangi' - cytundeb rhwng Llywodraeth Prydain a'r Maoris bod cyd-dynnu i fod. Fe'i arwyddwyd gan tua 45 o brif benaethiaid gwahanol lwythau. Roedd yn gytundeb arwyddocaol yn ol yn 1840 ac mae'i sylfaen yn parhau i fod a dylanwad heddiw. Ar ol gweld y ty lle roedd Busby, cynrychiolydd Prydain, yn byw a lle arwyddwyd y cytundeb, fe welsom y Marae ( neuadd gyfarfod) gafodd ei adeiladu i gofio'r canmlwyddiant yn 1940. Mae'n Marae Cenedlaethol ( yn hytrach na'r rhai sydd gan bob llwyth mewn gwahanol ardaloedd o'r wlad) gyda cherfluniadau o benaethiaid tylwythau amrywiol o gwmpas waliau'r Marae.

Mae'r diwrnod yr arwyddwyd y cytundeb yn cael ei gofio bob blwyddyn ar y 6ed o Chwefror, sef dydd Mercher nesaf, ac mae'n ddiwrnod o wyliau cyhoeddus yma.










Gadael Waitangi a gyrru i benrhyn Karikari a chael cinio yn Tokerau. Mynd mlaen i draeth hyfryd Bae Matai ac ymlacio yno am gwpwl o oriau cyn checkio i mewn i gaban ym mharc gwesyllfa Whatuwhiwhi ( Ffa-tw-ffi-ffi, dach chi'n ddeud, gyda llaw!!!) - Lle hyfryd, jyst ger y traeth.











4/02/08:
Gadael Whatuwhiwhi am y dydd a gyrru am begwn gogleddol Ynys y Gogledd, Cape Rienga. Fe gymrodd hi ddwy awr i gyrraedd yno a hanner awr o hopian i lawr llwybr serth i gyrraedd y penrhyn a'r goleudy ar ei ben. Mae'n 6 diwrnod o daith hwylio o fama i Fiji, y tir agosaf.
Mae'r penrhyn yn le sanctaidd yn ngredo'r Maoris. Dyma le mae'r meirw yn croesi drosodd i'r byd arall, yn eu crefydd nhw. Mae'n le arbennig, mor bellenig ac anghysbell - dach chi bron iawn yn teimlo eich bod chi mewn byd arall! Jyst bechod am yr holl fysus a'u cannoedd o dwristiaid sy'n heidio yma fel morgrug drwy'r dydd, - ni yn eu plith!!
Ar ol gyrru nol o'r pegwn, fe fuom yn ymlacio am gwpwl o oriau ar draeth Whatuwhiwhi ger y parc gwersylla.








5/02/08:
Diwrnod o ymlacio oedd heddiw i fod. Mynd i draeth Puheke ar ochr arall y penrhyn ond ar ol rhyw hanner awr, fe ddechreuodd hi bigo bwrw ac fe ddaeth hi'n gawod drom! Nol felly i'r gwersyll a chael diwrnod o ymlacio yno, yn darllen a thorheulo rhywfaint, rhwng y glaw!!

No comments: